Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bro Morgannwg (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â Pharagraffau 4(b), 4(c), 6(1)(a) a 7(1)(a). Ystyriodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan y Cyngor. Darparodd tystion ddatganiadau tystiolaeth. Cafodd yr Aelod ei gyfweld.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd y dystiolaeth yn awgrymu torri paragraff 7(1)(a).
Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth tuag at aelod o staff y Cyngor, yn benodol mewn gohebiaeth a wnaeth drwy e-bost a dros y ffôn. Canu’r Ombwdsmon fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod.
Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro’r Cyngor i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau lleol.
Canfu Pwyllgor Safonau’r Cyngor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a). Penderfynodd y Pwyllgor Safonau atal yr Aelod am gyfnod o ddau fis ac argymhellodd y dylai’r Aelod ymgymryd â hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn ddarostyngedig i apêl i Banel Dyfarnu Cymru.