Dyddiad yr Adroddiad

29/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Hirwaun a Penderyn

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202405340

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd fod yr Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad yn ei hymddygiad a’i thriniaeth tuag at nifer o unigolion gwahanol wrth drefnu a chynnal digwyddiad cymunedol.

Ystyriodd ymchwiliad a oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraffau 4(b) (parch ac ystyriaeth) a 4(c) (ymddygiad bwlio) y Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys dogfennau perthnasol a chofnodion cyfarfodydd. Cynhaliwyd cyfweliadau â thystion, gan gynnwys yr achwynydd. Cafwyd copïau o negeseuon e-bost yn ymwneud â’r digwyddiadau. Cyfwelwyd yr Aelod hefyd a darparodd wybodaeth ychwanegol.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth, a bod ei hymddygiad yn awgrymu torri paragraff 4(b) o’r Cod. Nid oedd yr Ombwdsmon wedi’i argyhoeddi bod ymddygiad yr Aelod yn gyfystyr â bwlio neu aflonyddu o fewn ystyr y Cod, ac felly nid oedd yn ystyried bod y dystiolaeth yn awgrymu torri paragraff 4(c) o’r Cod.

Wrth ystyried a oedd angen cyfeirio’r mater at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru er budd y cyhoedd, rhoddodd yr Ombwdsmon sylw i nifer o ffactorau budd y cyhoedd. Nododd yr Ombwdsmon fod y berthynas o fewn y Cyngor wedi gwella. Nodwyd hefyd fod yr Aelod wedi myfyrio ar ei hymddygiad ac wedi cynnig ymddiheuriadau am ei hymddygiad, ynghyd ag ymrwymiad i sicrhau na fyddai ymddygiad o’r fath yn digwydd eto. Dangosodd yr Aelod edifeirwch gwirioneddol am ei hymddygiad a’i effaith.

Ar y cyfan, o ystyried y mewnwelediad a’r myfyrio sylweddol a ddangoswyd gan yr Aelod, a’r ymddiheuriadau a gyflwynwyd am y sylwadau a wnaed, nid oedd yr Ombwdsmon wedi’i argyhoeddi y byddai camau pellach yn gymesur er budd y cyhoedd nac yn cyfrannu ymhellach at ailadeiladu perthnasoedd gwaith yn y dyfodol. Nid yw hyn i danseilio effaith yr ymddygiad.

Atgoffwyd yr Aelod o’i rhwymedigaethau i gydymffurfio â darpariaethau’r Cod ac i sicrhau ei bod yn ystyried sut mae ei hymddygiad yn effeithio ar eraill.

Ystyriodd yr Ombwdsmon mai’r cam cymesur, er budd y cyhoedd, oedd i’r Aelod ymgymryd â hyfforddiant ar y Cod, yn enwedig mewn perthynas â pharch ac ystyriaeth. Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Aelod gwblhau’r hyfforddiant hwnnw o fewn 3 mis.

Hysbyswyd yr Aelod y byddai canlyniad yr ymchwiliad hwn yn cael ei gofnodi ac y gellir ei ystyried pe byddai cwyn bellach o natur debyg yn cael ei derbyn yn ei herbyn yn y dyfodol.

O dan Adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oes angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion a ymchwiliwyd.