Dyddiad yr Adroddiad

09/28/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202204477

Canlyniad

Dim Angen Gweithredu

Honnwyd bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) wedi defnyddio iaith sarhaus a’i fod wedi bod yn fygythiol ac yn ymosodol tuag at aelod o’r cyhoedd.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri paragraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor   Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld.  Cyfwelwyd â’r Aelod.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth tyst, ac eithrio tystiolaeth yr achwynydd a’r Aelod, i gyfrif am yr hyn a ddywedwyd yn ystod y cyfnewid rhwng yr Aelod a’r achwynydd.  Darparwyd tystiolaeth tystion gan aelodau o’r cyhoedd a oedd yn cefnogi haeriad yr Aelod bod yr achwynydd wedi profi digwyddiadau tebyg yn y gorffennol.  Canfu’r ymchwiliad fod y digwyddiad wedi’i adrodd i’r Heddlu a benderfynodd mai digwyddiad “y naill air yn erbyn y llall” clir ydoedd, a dogfennwyd nad oedd tystiolaeth ategol i gefnogi’r naill adroddiad na’r llall.  Ni chymerodd yr Heddlu unrhyw gamau gweithredu pellach yn erbyn yr Aelod ac felly ni chanfu’r Heddlu unrhyw dystiolaeth o’r ymddygiad gwael honedig ar ran yr Aelod.  Nid oedd yr Ombwdsmon wedi’i berswadio, ar bwysau’r dystiolaeth a oedd ar gael, fod tystiolaeth o dorri’r Cod.

Yn unol â hynny, canfu’r Ombwdsmon o dan Adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 nad oedd tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Cod.