Dyddiad yr Adroddiad

23/06/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Hawliau tramwy a llwybrau cyhoeddus

Cyfeirnod Achos

202500854

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs A nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w cwyn am y camau a gymerwyd ynghylch llwybr ceffylau ger eu heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y gohebiaeth, gan Mr a Mrs A at y Cyngor, yn amlinellu eu disgwyliadau iddo reoli’r pryderon a godwyd fel cwyn. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi ymchwilio nac wedi ymateb i Mr a Mrs A yn unol â’i broses gwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymchwilio i’r gŵyn a darparu ymateb llawn, gan fanylu ar ganlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw gamau a gymerwyd neu a gynlluniwyd. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn o fewn 4 wythnos ac i ymddiheuro am beidio ag ystyried y mater fel cwyn pan gododd y cyfle’n gynharach.