Dyddiad yr Adroddiad

03/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Hawliau ac amodau tenantiaid

Cyfeirnod Achos

202309511

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr B, sy’n byw ar safle Sipsiwn a Theithwyr (“y Safle”), fod ei lain yn orlawn, bod methiant ar ran Cyngor Caerdydd i gynnal ei floc cyfleustodau, a’i fod yn cael anhawster prynu trydan. Yn ystod yr ymchwiliad i gŵyn Mr B, amlygwyd pryderon o ran sut roedd y Cyngor wedi rheoli’r holl Safle. Defnyddiwyd pwerau Ar Ei Liwt Ei Hun yr Ombwdsmon, sy’n caniatáu ymestyn ymchwiliad pan amlygir materion eraill, cysylltiedig yn ystod ymchwiliad cyfredol. Bu’r ymchwiliad estynedig yn ystyried a oedd y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ddyletswyddau cyfreithiol yn achos y Safle, a fu methiant gwasanaeth neu gamweinyddu yn y ffordd roedd y Cyngor wedi cynnal y blociau cyfleustodau ar y Safle, ac a fu methiant gwasanaeth neu gamweinyddu yn y ffordd y cafodd cyflenwad trydan y preswylwyr ar y Safle ei reoli.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd y cyfleusterau a oedd ar gael ar lain Mr B yn briodol o ystyried nifer y preswylwyr ac anghenion y preswylwyr. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod methiant wedi bod i gynnal bloc cyfleustodau Mr B. Cafodd y gallu i brynu trydan ei ystyried fel rhan o’r ymchwiliad estynedig.

O ran yr ymchwiliad estynedig, canfuwyd problem dymor hir gan fod y galw’n fwy na nifer y lleiniau sydd ar gael yn yr ardal. Roedd nifer o ffactorau wedi effeithio ar hyn, gan gynnwys bod yr ardal lle mae’r Safle wedi’i leoli wedi’i nodi fel un anghynaliadwy a bod hynny wedi effeithio ar allu’r Cyngor i sicrhau cyllid i’w ailddatblygu. Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn awr o ran hyn, gyda Chynllun Gwarchod y Glannau ar waith sydd wedi newid statws y Safle. Mae’r Cyngor hefyd wedi bwrw ymlaen i brynu tir ychwanegol fel rhan o gynllun i ehangu a datblygu’r Safle.

Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad, er bod y Cyngor wedi gwneud llawer o waith cymhleth i fwrw ymlaen â hyn, roedd yr amserlenni’n rhai maith, ac nid oedd yn amlwg a ellid bod wedi gwneud hyn yn gynharach. Yn ystod y cyfnod hwn roedd aelodau’r gymuned wedi dioddef diffyg llety addas a lleiniau gorlawn, ac nid yw’n amlwg byth pa bryd fydd y safle newydd wedi’i gwblhau. Felly, canfuwyd nad oedd y Cyngor wedi diwallu anghenion llety’r gymuned dros gyfnod o flynyddoedd lawer, a bod hynny wedi arwain at amodau gwael gan adael y preswylwyr dan anfantais.

Canfu’r ymchwiliad hefyd, o ganlyniad i’r newid i statws y Safle, bod cyllid yn awr wedi’i sicrhau i adnewyddu’r blociau cyfleustodau a bod y gwaith hwn bellach yn mynd yn ei flaen. Fodd bynnag, dywedwyd fod oedi hir wrth drwsio a chynnal y Safle. Mae’r Cyngor wedi cydnabod anawsterau yn y maes hwn ac mae’n awr yn gweithio i wella’r gwasanaeth hwn. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad fod y cynllun prynu trydan yn gyfyngedig ac nad yw’n cyd-fynd â’r canllaw sydd ar gael. Er bod y gallu i ddarparu cyflenwad uniongyrchol i breswylwyr y tu allan i reolaeth y Cyngor, mae’n wir er hynny bod y preswylwyr wedi eu gadael dan anfantais sylweddol.

Cytunodd y Cyngor, o fewn 1 mis, i ymddiheuro i Mr B am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad, i ymddiheuro i ddeiliaid 2 lain arall am waith trwsio nad oedd wedi’i wneud, i roi diweddariad ar y gwaith heb ei wneud yr oedd contractwr yn ei gwblhau, a dangos tystiolaeth i’r swyddfa hon o’r ymgynghori a fu â phreswylwyr y safle yn ystod Gorffennaf 2025. Cytunodd y Cyngor hefyd o fewn 4 mis, i roi diweddariad i breswylwyr y Safle ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu’r Safle dros dro, darparu copi o’r polisi sy’n cael ei lunio yn achos cwblhau gwaith trwsio lle na chafwyd mynediad, ac asesiad cysylltiedig o’r effaith ar gydraddoldeb, i’r swyddfa hon a diweddaru preswylwyr y Safle o’r newidiadau a wnaed, gan gynnwys cyrff eiriolaeth yn ôl yr angen. Cytunodd hefyd i adolygu targedau amser ymateb ei Uned Ymateb Cyflym a sicrhau bod y rhain yn dychwelyd i’w lefelau gwreiddiol cyn gynted â phosibl, yn rhoi diweddariad i’r swyddfa hon ar y cynnydd mae’r Cyngor yn ei wneud o ran adnewyddu’r blociau cyfleustodau ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd mae’r Cyngor yn ei wneud â’r system mesuryddion rhagdalu. Yn olaf, cytunodd i rannu’r adroddiad hwn â’i Swyddog Arweiniol ar gyfer Cydraddoldeb (neu swyddog cyfatebol) i glywed eu barn o ran a oes cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a’i fod yn ei rannu â phwyllgor llywodraethu priodol i oruchwylio a monitro cydymffurfiaeth y Cyngor â’r argymhellion hyn.