Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Mrs A. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad i Mrs A am yr oedi ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.