Cwynodd Mr C fod cyfeiriadau at Gariolegydd Ymgynghorol ym Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi mynd ar goll, a’i fod wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros ar gam.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd cyfeiriadau Mr C a’i le ar y rhestr aros wedi cael eu trin yn briodol. Er i’r Bwrdd Iechyd ymateb deirgwaith i gwynion Mr C, nid oedd wedi rhoi sylw digonol i’w bryderon. Nid oedd yr ymatebion yn cydymffurfio â rheoliadau cwynion y GIG oherwydd nad oeddent wedi ystyried Atebolrwydd Cymwysedig. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr C o fewn un mis yn cydnabod ac ymddiheuro am fethu â thrin ei gyfeiriadau’n iawn, i gynnig £250 iddo am yr amser a’r drafferth o wneud ei gwynion, a’i hysbysu o’i sefyllfa o ran Atebolrwydd Cymwysedig. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i adolygu ei weithdrefnau cyfeirio a rhestr aros, o fewn deufis.