Cwynodd Mr C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â symud atgyfeiriad ymlaen at y Gwasanaeth Ystum a Symudedd, i’w gynorthwyo tra roedd yn aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y cyfathrebiad gan feddyg Mr C wedi bod yn groes i’w gilydd a bod Mr C wedi cael ei arwain i gredu bod atgyfeiriad wedi’i wneud, pan nad oedd. Pan ymchwiliodd y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mr C, ni chysylltodd â’r meddyg a dibynnu’n llwyr ar y wybodaeth gyfyngedig a oedd gan y Gwasanaeth Ystum a Symudedd. Collwyd cyfle i egluro a datrys y materion pan wrthododd y Bwrdd Iechyd gais am gyfarfod i drafod pryderon Mr C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i anfon ffurflen atgyfeirio at feddyg teulu Mr C i’w chwblhau o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymddiheuro am beidio ag ymchwilio i gwynion Mr C yn ddigon trylwyr, rhoi adborth i’r meddyg a blaenoriaethu ystyriaeth o’r atgyfeiriad, pan fyddai’n cael ei dderbyn.