Dyddiad yr Adroddiad

09/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202508582

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ei dynnu oddi ar ei restr aros ENT yn amhriodol, gan ddweud nad oedd wedi cysylltu â hwy er ei fod wedi gwneud hynny.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi dilyn y cyngor yn llythyr y Bwrdd Iechyd a’i fod wedi ei e-bostio ynghylch apwyntiad ENT. Er hynny, roedd y Bwrdd Iechyd wedi tynnu Mr A oddi ar ei restr aros ENT yn amhriodol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A am ei dynnu’n amhriodol oddi ar y rhestr aros, i gadarnhau’n ysgrifenedig i Mr A ei fod wedi’i roi’n ôl ar y rhestr aros yn yr un safle ag yr oedd cyn cael ei dynnu oddi arni, ac egluro i Mr A yr hyn a oedd wedi mynd o’i le, a hynny o fewn 2 wythnos.