Dyddiad yr Adroddiad

03/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag Anabledd

Cyfeirnod Achos

202601522

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C fod camweinyddu wedi digwydd yn y ffordd yr ystyriodd Cyngor Sir Powys ei gais am addasiadau i’w gartref, yn ogystal â’i gwynion.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi asesu anghenion Mr C a’i deulu yn ddigonol, ac nad oedd wedi dilyn ei bolisi ei hun o ran gwneud argymhellion a phenderfyniadau. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y cyfathrebu â Mr C wedi bod yn anghyson ac yn anghywir, ac na chafodd ei gwynion eu hymchwilio yn unol â’r gweithdrefnau perthnasol. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr C o fewn mis, i ymddiheuro am y ffordd ymdriniodd â’i gais am addasiadau a’i gwynion, ac i rannu gwersi a ddysgwyd gydag aelodau perthnasol o’r staff. Cytunodd y Cyngor hefyd i gwblhau’r asesiadau angenrheidiol a rhoi gwybod i Mr C am ei benderfyniad o fewn dau fis. Cytunodd i gyfarfod â Mr C i gynllunio sut y byddai anghenion y teulu, fel y nodwyd, yn cael eu diwallu, ac i adolygu ei brosesau ar gyfer ymdrin â cheisiadau am addasiadau a chwynion o fewn tri mis.