Dyddiad yr Adroddiad

18/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Gwasanaethau i Blant ag anabledd gan gynnwys grantiau cyfleusterau i’r anabl

Cyfeirnod Achos

202601684

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Powys wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb cam 2 terfynol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr oedi, o fewn 1 wythnos, ac egluro pam fod hyn wedi digwydd, cynnig iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi ac egluro pwy sydd wedi’i benodi i gwblhau’r ymchwiliad cam 2 a chadarnhau y bydd hyn yn dechrau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 22 Mehefin. Mae hefyd wedi cytuno y bydd yn darparu ymateb cam 2 terfynol i’r gŵyn cyn pen 5 wythnos i 22 Mehefin 2026.