Cwynodd Mr B fod Cyngor Sir Powys wedi methu ag uwchgyfeirio ei gŵyn gwasanaethau cymdeithasol i Gam 2 ei Broses Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol statudol.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â rhoi gwybod i Mr B am ei resymau am beidio â symud ei gŵyn ymlaen i Gam 2. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor y byddai, o fewn pythefnos, yn ymddiheuro a rhoi eglurhad i Mr A am yr oedi’n symud ymlaen gyda’i gŵyn. Cytunodd hefyd y byddai naill ai’n penodi Ymchwilydd Annibynnol i ymchwilio o dan Gam 2, neu’n egluro wrth Mr B pam na ellid symud ymlaen ar hyn o bryd o fewn pythefnos.