Cwynodd Mr A fod Cyngor Castell Nedd Port Talbot (“y Cyngor”) wedi gwrthod ymchwilio i’w gŵyn Gwasanaethau Plant Cam 2.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod agweddau ar gŵyn Mr A oedd yn dod o dan y cyfyngiadau a eglurwyd iddo gan y Cyngor pan ddywedodd wrtho na fyddai’n ymchwilio i’w gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon hefyd nad oedd y Cyngor wedi ystyried a allai ymateb i rai agweddau ar gŵyn Mr A o dan ei Bolisi Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor y byddai, o fewn pythefnos, yn cynnig ymddiheuro wrth Mr A, yn ailystyried a ddylai bwyntiau ei gŵyn fod wedi cael eu hystyried o dan y Polisi ac yn rhoi ymateb iddo’n egluro penderfyniad y Cyngor.