Cwynodd Miss P fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag ymateb i’w chŵyn gwasanaethau cymdeithasol.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â logio cwyn gwasanaethau cymdeithasol Miss P dan y Weithdrefn Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Miss P am fethu â logio cwyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cam 1 ac ymateb i gŵyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cam 1 o fewn 4 wythnos.