Cwynodd Mrs B fod Cyngor Caerdydd wedi methu â mynd i’r afael â’i phryderon yn ddigonol a gwrthod ymateb yn ffurfiol i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi gwrthod yn gywir i ymateb i’w chŵyn o dan y Broses Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol, y gallai’r Cyngor fod wedi ymateb o dan ei Broses Gwynion Corfforaethol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs B i ymddiheuro am y methiant i ystyried ei chŵyn o dan y Broses Gwynion Corfforaethol ac i gyhoeddi ymateb i’w chŵyn Cam 1 o fewn 3 wythnos.