Cwynodd Miss A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi methu â
rhoi sylw i’w phryderon ynghylch cyswllt gyda’i nai.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â rhoi sylw ffurfiol i’r pryderon o dan y broses gwynion berthnasol. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i logio’r gŵyn o dan Gam 2 ei broses gwynion, o fewn wythnos, ac ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.