Cwynodd Mr B, ar ôl i’w eiriolwr gyflwyno cwyn Cam 2 ynglŷn â Gwasanaethau Cymdeithasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i’r gwyn, er i Mr B gael cyfarfod â’r Ymchwilydd Annibynnol ym mis Mai 2026.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i’r gwyn, ac nad oedd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, a chafodd ei gytundeb, i ysgrifennu at Mr B drwy ei eiriolwr. Roedd y cytundeb yn cynnwys ymddiheuriad am yr oedi wrth anfon yr ymateb i’r gwyn, ymddiheuriad pellach am y diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, ac ymrwymiad i anfon ymateb i’r gwyn o fewn 3 wythnos.