Dyddiad yr Adroddiad

23/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202604352

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss P fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu ag ymateb i’w chwyn ynghylch gwasanaethau cymdeithasol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag anfon ymateb i gwyn Miss P o dan Gam 1 y broses gwynion gwasanaethau cymdeithasol. Nododd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss P. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss P gydag ymddiheuriad ac eglurhad am y methiant i anfon ymateb i’r gwyn; cynnig talu £150 i Miss P i gydnabod yr amser a’r trafferth a gafodd wrth gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon; ac anfon ymateb i’r gwyn o dan Gam 1 o fewn pythefnos.