Dyddiad yr Adroddiad

29/04/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202509518

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu â chyfathrebu ac wedi anwybyddu pryderon diogelu.

Nododd yr Ombwdsmon fod Ms A a’r Cyngor wedi cyfathrebu ym mis Tachwedd 2025. Roedd y Cyngor wedi gofyn i Ms A gyflwyno rhestr o’i phryderon er mwyn iddo allu penderfynu beth y gallai ymchwilio iddo, gan egluro mai dim ond pryderon o’r 12 mis blaenorol y gallai eu hystyried, a phryderon nad ymchwiliwyd iddynt o’r blaen. Darparodd Ms A restr o bryderon i’r Cyngor ar 26 Tachwedd 2026. Ni ddarparodd y Cyngor unrhyw ymateb pellach. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn pythefnos, yn ymddiheuro i Ms A ac yn cael manylion am y rhestr o’i phryderon, ac yna o fewn 1 mis, yn darparu ymateb i roi gwybod i Ms A pa bryderon fydd yn cael eu hystyried fel cwyn.