Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Abertawe wedi ymchwilio i’w gwyn,
er bod y pryderon ynghylch gweinyddiaeth ac ymddygiad yn
wahanol i faterion oedd yn destun achos cyfreithiol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymdrin â phryderon
penodol a godwyd gan Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi
achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd yr
Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i anfon
ymateb mwy manwl at Mr A o fewn 4 wythnos. Dylai’r ymateb hwn
fynd i’r afael â’r pwyntiau unigol a godwyd ganddo, gan egluro’r
rhesymau pam y byddant, neu pam na fyddant, yn cael eu hymchwilio.