Cwynodd Mr A nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w ohebiaeth gwyno, ac iddo fethu â symud ei gwynion ymlaen i Gam 2.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i rai cwynion a gohebiaeth. Fodd bynnag, roedd wedi methu ag ymateb i ddwy gwyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymatebion i Mr A mewn perthynas â’i gwynion oedd heb eu datrys o fewn 4 wythnos, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi.