Dyddiad yr Adroddiad

30/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202601779

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B fod Cyngor Abertawe wedi methu â chyhoeddi adroddiad ar gŵyn Cam 2 a chanlyniadau ynglŷn â’i chŵyn am Wasanaethau Cymdeithasol i blant.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cyhoeddi adroddiad na chanlyniadau Cam 2 ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Miss B. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss B, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro am yr oedi, ymddiheuro ymhellach am y diffyg diweddariadau a chyflwyno adroddiad a chanlyniadau Cam 2 y Gwasanaethau Cymdeithasol.