Cwynodd Mr A am y ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â’i gŵyn, y diffyg
cyfathrebu ac nad oedd ei gŵyn wreiddiol wedi cael ei datrys.
Canfu’r Ombwdsmon fod y ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â’r gŵyn yn wael ac nad oedd y mater wedi’i ddatrys yn llawn. Roedd yr Ombwdsmon
o’r farn bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A oherwydd diffyg cynnydd o ran y mater y cwynodd amdano, a phenderfynodd setlo’r gŵyn
heb ymchwiliad.
Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol o fewn 1 wythnos: ysgrifennu at Mr A yn ymddiheuro am beidio ag uwchgyfeirio’r gŵyn at Gam 2 Proses Gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol ac esbonio’r rhesymau am hynny; cadarnhau wrth Mr A y bydd ymchwilydd annibynnol yn cael ei benodi; cynnig iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi; a chadarnhau y bydd y Cyngor yn ysgrifennu ato unwaith y bydd ymchwilydd annibynnol wedi’i benodi. Yn ogystal, cytunodd y Cyngor y byddai
ymchwilydd annibynnol yn cyhoeddi ymateb i’r gŵyn ymhen 6 wythnos.