Cwynodd Ms C fod Cyngor Sir Fynwy wedi gwrthod ymchwilio i’w chŵyn ynghylch penderfyniad cartref gofal i’w hatal rhag ymweld â’i mam, yn yr hyn a ddaeth i’r amlwg i fod yn ddyddiau olaf bywyd ei mam.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, gan mai’r Cyngor a ariannodd y lleoliad, y dylai fod wedi ymateb i gŵyn Ms C, ac ystyried hawliau Ms C a’i diweddar fam. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig ymddiheuriad i Ms C a chydnabod ei chŵyn o fewn wythnos, ac i ddarparu ymateb ffurfiol yn unol â’i weithdrefn gwyno.