Dyddiad yr Adroddiad

28/04/2026

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202500208

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Mae Ms C wedi cwyno am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a fu oedi cyn anfon ambiwlans ati ar 31 Gorffennaf 2024 o ganlyniad i unrhyw fethiannau posibl o ran delio â galwadau a wnaed i ac o’r Ymddiriedolaeth.

Canfu’r ymchwiliad, er bod oedi hir cyn i ambiwlans gyrraedd Ms C, nad oedd hyn oherwydd unrhyw fethiannau a nodwyd o ran delio â galwadau a wnaed i ac o’r Ymddiriedolaeth. Dyfarnodd yr Ombwdsmon nad oedd y gŵyn wedi’i chadarnhau.