Dyddiad yr Adroddiad

17/09/2026

Achos yn Erbyn

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Pwnc

Gwasanaeth Tân

Cyfeirnod Achos

202603109

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd y deliodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru â’i gwynion am ymweliadau diogelwch tân â’i fusnes.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ATAGC wedi ymchwilio nac wedi ymateb i gwynion Mr A yn unol â’i bolisi a’i ganllawiau. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb ATAGC i, o fewn 4 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Mr A, darparu ymateb i’w gŵyn Cam 2, adolygu’r ffordd flaenorol y deliodd â’i gwynion, a datrys unrhyw faterion a nodwyd.