Cwynodd Mr A fod Meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel
Dda wedi methu â rhoi sylw i’w gŵyn am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi methu â rhoi sylw i
bryderon Mr A gan achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol iddo. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Feddygfa i ysgrifennu at
Mr A, o fewn pythefnos, yn ymddiheuro ac yn ymateb i’w gŵyn gan roi sylw i’w bryderon.