Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fab gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cwynodd, er gwaethaf ei hanes hysbys o gamddefnyddio sylweddau a’i ddibyniaeth ar feddyginiaeth debyg, y rhagnodwyd gabapentin iddo cyn ei farwolaeth drist o orddos.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod ymateb wedi’i roi i’r gŵyn, nad oedd yn rhoi sylw llawn i’r materion posibl sy’n gysylltiedig â rhagnodi’r feddyginiaeth. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis y byddai, o fewn 1 mis, yn rhoi ymateb pellach sy’n mynd i’r afael â phryderon Ms A, yn ogystal ag ystyried a oedd y penderfyniadau a wnaed yn unol â’r canllawiau rhagnodi.