Cwynodd Mr A nad oedd y Practis wedi ymateb yn unol â’r weithdrefn Gweithio i Wella (PTR) pan gododd ei bryderon. Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Practis wedi bod mewn gohebiaeth, nad oedd wedi darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn a oedd yn unol â’r weithdrefn PTR. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i, o fewn 6 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Mr A am beidio ag ymateb yn unol â’r weithdrefn PTR ac egluro pam y digwyddodd hyn, ac i ddarparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn PTR.