Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202601756

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cydymffurfio â’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, pan ystyriodd gais ei mam.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ystyried y cais a’r apêl yn unol â’r Fframwaith. Fodd bynnag, nid oedd y llythyr penderfyniad yn cynnwys y wybodaeth ofynnol ac nid oedd yr ymateb i’r gŵyn yn bodloni gofynion gweithdrefn gwynion y GIG. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddiwygio’r templed ar gyfer llythyrau penderfyniad Gofal Iechyd Parhaus ac adolygu ei broses ar gyfer ystyried cwynion am benderfyniadau Gofal Iechyd Parhaus, o fewn mis.