Dyddiad yr Adroddiad

03/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202602478

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A na chafodd dyfais feddygol, a oedd yn ei braich, ei monitro’n briodol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn trosglwyddo ei gofal i’r Bwrdd Iechyd. Cododd Ms A bryderon hefyd ynghylch y ffordd ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â’i chwyn.

Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â materion heb eu datrys Ms A yn ei ymateb i’r gwyn, gan gynnwys ei phryder ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am oruchwylio ac adolygu’r ddyfais yn ystod y cyfnod y cwynwyd amdano. Nododd yr Ombwdsmon hefyd na chafodd dogfennau a ddarparwyd gan Ms A, ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol yn glinigol am y ddyfais, eu hystyried yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gwyn.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, a chytunodd y Bwrdd, i gynnig ymddiheuriad i Ms A o fewn 4 wythnos am y ffaith na chafodd pob un o’i phryderon sylw yn ymateb y Bwrdd Iechyd. Yna, o fewn 10 wythnos, i ymchwilio a darparu ymateb pellach i Ms A ynghylch y pryderon oedd heb eu datrys, ac i ystyried y dogfennau yr oedd wedi’u darparu.