Dyddiad yr Adroddiad

05/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gofal i Garcharorion

Cyfeirnod Achos

202408767

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr B am y driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”), yn benodol a oedd presgripsiwn o fethadon (a ddefnyddir i drin caethiwed i opioidau) wedi’i reoli’n briodol ac yn unol â chanllawiau perthnasol, ac a oedd penderfyniad i beidio â rhagnodi meddyginiaeth gwrth-iselder yn briodol ac yn unol â chanllawiau perthnasol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y presgripsiwn o fethadon wedi’i reoli’n briodol ac yn gyson â chanllawiau rhagnodi a safonau clinigol perthnasol. Ni chafodd y rhan hon o gŵyn Mr B ei chadarnhau. Roedd y penderfyniad i beidio â rhagnodi meddyginiaeth gwrth-iselder i Mr B hefyd yn briodol, yn unol â chanllawiau perthnasol ac yn ystyried y sefyllfa yn y carchar ar y pryd. Ni chafodd y rhan hon o gŵyn Mr B ei chadarnhau.