Dyddiad yr Adroddiad

10/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Gofal eilaidd

Cyfeirnod Achos

202602344

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Hydref 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â hysbysu Mr A fod ei bryderon wedi cael eu trin fel ymholiad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a dryswch i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro Mr A o fewn 4 wythnos am fethu â’i hysbysu fod ei bryderon wedi cael eu trin fel ymholiad, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn.