Dyddiad yr Adroddiad

29/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Gofal eilaidd

Cyfeirnod Achos

202601536

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi mynd i’r afael â’i phryderon yn ddigonol. Dywedodd ei bod wedi cael archwiliadau ar y galon o’r blaen a’u bod wedi dweud wrthi fod y canlyniadau’n normal. Fodd bynnag, yn ystod ei hasesiad cyn llawdriniaeth ar ei phen-glin, cafodd wybod bod arni angen rhagor o brofion ar y galon, ac roedd hi’n poeni y byddai’r rhain yn achosi oedi ychwanegol i’w llawdriniaeth ac y gellid bod wedi’u cwblhau’n gynharach.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi anfon ymateb i’w chŵyn, nad oedd wedi mynd i’r afael â’i phryderon yn ddigonol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 2 fis, yn anfon ymateb pellach ati yn mynd i’r afael â’r pryderon oedd heb eu datrys.