Dyddiad yr Adroddiad

22/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Gofal eilaidd

Cyfeirnod Achos

202600364

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss C am y gofal a gafodd hi a’i babi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro cyn, yn ystod, ac ar ôl i’w babi gael ei eni.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb manwl i’r rhan fwyaf o bryderon Miss C ond nad oedd bob amser wedi egluro’r derminoleg feddygol a ddefnyddiodd. Nid oedd rhai materion pwysig wedi cael sylw llawn ac roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai fod cyfleoedd pellach i wella’r gwasanaethau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Miss C o fewn mis i gynnig cyfarfod i drafod ac egluro’r gofal a roddwyd i’w babi, ac i ystyried a ellir cymryd camau ychwanegol i wella’r gwasanaeth mae’n ei ddarparu. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu crynodeb ysgrifenedig i Miss C o’r cyfarfod ac unrhyw gamau y mae’n cytuno i’w cymryd, o fewn dau fis.