Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gofal eilaidd

Cyfeirnod Achos

202601648

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi gorddos o forffin i’w mam, gan arwain at iddi ddod yn anymatebol ac angen 3 dos o driniaeth gwrthdroi.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn aneglur o ran ystyried oedran a phwysau ei mam wrth benderfynu ar y dos o forffin y byddai ei angen arni. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod angen ymateb pellach i’r gŵyn i roi esboniad gwell. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A o fewn 1 mis, a rhoi esboniad ysgrifenedig pellach.