Dyddiad yr Adroddiad

21/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gofal eilaidd

Cyfeirnod Achos

202604150

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w gŵyn ynglŷn â’i ofal a’i driniaeth fel claf allanol, cŵyn a gyflwynodd dros 6 mis yn ôl.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad i Mr A ac i anfon ymateb i’r gŵyn, o fewn 6 wythnos.