Dyddiad yr Adroddiad

24/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gofal eilaidd

Cyfeirnod Achos

202603667

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A ei bod yn anfodlon ar ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i’w chwyn ynghylch ei gofal a’i thriniaeth gastroenteroleg. Dywedodd nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â’r holl faterion a gododd, a’i fod yn cynnwys rhai anghywirdebau ffeithiol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael yn llawn â phryderon Miss A. Penderfynodd ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss A, cynnig cyfle iddi gadarnhau pa faterion o’i chwyn wreiddiol sy’n parhau heb eu datrys, a darparu ymateb sy’n cywiro unrhyw faterion a nodwyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn o fewn 6 wythnos.