Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd yn ystod cyfnod yn yr ysbyty rhwng mis Mai a mis Awst 2024. Nid oedd Mrs A yn fodlon ar ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, ac roedd wedi codi ymholiadau pellach ym mis Ebrill 2026.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ystyried gohebiaeth bellach gan Mrs A, nad oedd wedi darparu ymateb i’r cwestiynau yr oedd Mrs A wedi’u cyflwyno. Roedd hyn wedi achosi anghyfleustra i Mrs A, yn ogystal â rhwystredigaeth ac ansicrwydd. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn i Mrs A o fewn 8 wythnos, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi o fewn 4 wythnos.