Cwynodd Mrs B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio’n briodol i Syndrom Stevens-Johnson posibl ei diweddar dad ac nad oedd wedi darparu safon briodol o ofal iddo tra’r oedd yn glaf mewnol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle hyd yma i ymchwilio i’w weithredoedd pan oedd tad Mrs B wedi dod i’r Adran Achosion Brys am y tro cyntaf, ac nad oedd eto wedi asesu a oedd atebolrwydd cymhwysol ar ei ran.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, i ddarparu ymateb pellach i Mrs B ar y materion hyn.