Cwynodd Mr A am ofal a thriniaeth y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â thriniaeth hormonau ac ymweliad dilynol â’r Adran Achosion Brys. Cododd bryderon hefyd ynghylch y ffordd y cafodd samplau gwaed eu trin a cheisiodd eglurhad pellach ar agweddau ar ei ofal.
Canfu’r Ombwdsmon fod elfennau o gŵyn Mr A yr oedd yn ceisio eglurhad pellach arnynt, a bod gwybodaeth a gafwyd trwy gais mynediad at wybodaeth yn ymddangos fel pe bai’n codi pryderon newydd nad oeddent wedi’u hystyried gan y Bwrdd Iechyd eto. Yn ogystal, nid oedd yn ymddangos bod pryderon ynghylch y ffordd y cafodd samplau gwaed eu trin wedi cael sylw. Ystyriodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol i’r Bwrdd Iechyd gael y cyfle i ymateb i’r materion hyn yn y lle cyntaf, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Mr A, o fewn pythefnos, i sefydlu ei bryderon ac i ystyried, o dan ‘Gwrando ar Bobl: Proses Cwynion, Digwyddiadau ac Iawndal GIG Cymru’, unrhyw bryderon nad oeddent wedi cael sylw llawn o’r blaen.