Cwynodd Mrs A nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) wedi darparu ymateb i’w chwyn sy’n mynd i’r afael â’i phryderon ynghylch y ffordd y rheolodd adran rhewmatoleg ei gofal a’i thriniaeth.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi wynebu oedi wrth gael ymateb i’w chwyn, ac o ganlyniad, nid yw ei phryderon wedi cael sylw.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, a chafodd gytundeb ganddo, i ddarparu ymateb i gwyn Mrs A o fewn pythefnos.