Cwynodd Mr A am ei fynediad at Wasanaethau Rheoli Pwysau Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol, cododd bryderon ynghylch y ffordd y cafodd ei atgyfeiriad ei drin a diffyg llwybr triniaeth ystyrlon, a ystyriai fod wedi’i adael heb gefnogaeth briodol er gwaethaf ei broffil clinigol risg uchel a phroblemau iechyd sy’n gysylltiedig â gordewdra a oedd yn gwaethygu.
Nododd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â’r materion penodol a godwyd yng nghŵyn gychwynnol Mr A. Fodd bynnag, roedd Mr A yn parhau i fod yn anfodlon gan ei fod o’r farn nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â phrif fater ei gŵyn, sef a oedd ei broffil risg clinigol cyffredinol wedi’i asesu, ei ymchwilio a’i werthuso’n glinigol yn briodol cyn gwneud y penderfyniadau terfynol. Ystyriai’r Ombwdsmon y gellid mynd i’r afael â’r pryderon, a datrys y gŵyn heb yr angen am ymchwiliad ffurfiol.
I hwyluso’r datrysiad hwn, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i Mr A, o fewn 4 wythnos, yn mynd i’r afael yn benodol â’r pryderon a gododd gyda’r Ombwdsmon.