Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202602419

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Sir Dinbych wedi ymateb yn brydlon i’w geisiadau am gymorth i gychwyn hawliad yswiriant am ddifrod a achoswyd i’w eiddo. Dywedodd fod oedi wedi bod drwy gydol y broses gyfan, ac nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er na ellid ystyried agweddau ar gŵyn Mr A a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r hawliad yswiriant o dan broses gwynion y Cyngor, fod y Cyngor wedi dweud yn anghywir nad oedd yn gallu ystyried unrhyw agwedd ar y gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A ac i ddarparu ymateb i’r materion a oedd o fewn ei broses gwynion, o fewn pythefnos.