Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202205382

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs F fod Cyngor Caerdydd wedi gwrthod ymchwilio i’w chŵyn am y gwasanaethau cymdeithasol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi penderfynu’n anghywir bod y gŵyn yn disgyn y tu allan i’r weithdrefn statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mrs F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro wrth Mrs F a derbyn ei chŵyn yn unol â Pholisi Cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, o fewn 10 diwrnod gwaith.