Dyddiad yr Adroddiad

04/04/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202207010

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Z fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu gohirio hysbysiad gwella ei landlord a oedd yn golygu na fyddai ei waith atgyweirio’n cael ei gwblhau tan ar ôl iddo gael ei droi allan.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod Mr Z wedi cwyno i’r Cyngor ond nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ffurfiol i’w bryderon. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Cyngor â chais gan yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr Z am beidio ag ymateb i’w gŵyn ac y byddai’n rhoi ymateb i’w gŵyn o fewn 4 wythnos.