Dyddiad yr Adroddiad

19/05/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202600721

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A ei bod yn anfodlon ag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (y “Bwrdd Iechyd”) i’w chwyn bod yr adran Gynaecoleg wedi gwrthod ei hatgyfeiriad ac na chafodd driniaeth.

Gwrthododd y Bwrdd Iechyd gais Mrs A am ymateb ysgrifenedig pellach i fynd i’r afael â’i phryderon a oedd heb eu datrys. Dywedodd y Bwrdd ei fod eisoes wedi mynd i’r afael â’r materion, ac wedi cynnig cyfarfod iddi yn lle hynny. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod agweddau ar gŵyn Mrs A nad oeddent wedi cael sylw yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, ac roedd rhai o’r esboniadau’n aneglur. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A, adolygu ei ymateb i’r gŵyn a phryderon Mrs A, a darparu ymateb ysgrifenedig pellach, o fewn 6 wythnos.