Dyddiad yr Adroddiad

30/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202600986

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y ffordd yr oedd Cyngor Caerdydd wedi delio â’i chais Sbardun Cymunedol (adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol) a’r ymateb a gafodd i’w chŵyn ffurfiol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor i’w chŵyn yn mynd i’r afael yn gywir â’i phryderon am yr oedi wrth ddelio â’i chais Sbardun Cymunedol na p’un a gafodd y cais hwnnw ei drin yn unol â pholisïau, gweithdrefnau ac amserlenni perthnasol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymateb pellach i’r gŵyn, o fewn 4 wythnos, i fynd i’r afael â phryderon Miss A. Bydd yr ymateb yn cynnwys ymddiheuriad am yr ymateb cyntaf heb gynnwys y cyswllt a gafodd ganddi yn dilyn y llythyr cydnabod Sbardun Cymunedol a anfonodd, a chynnig iawndal ariannol o £75 iddi i gydnabod yr amser a’r drafferth wrth wneud y gŵyn.