Dyddiad yr Adroddiad

22/01/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202407382

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr H fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Gorffennaf 2024.

Canfu’r Ombwdsmon y bu methiant gan y Cyngor i ymateb i’r gŵyn, a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr H. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr H ac esboniad am y methiant. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnig taliad iawndal o £50 i Mr H i gydnabod ei amser a’i drafferth yn cysylltu â’r Ombwdsmon, ac i ddarparu ymateb i gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith.