Cwynodd Mr B oherwydd ei fod yn anfodlon bod Cafcass Cymru (“y Corff”) wedi methu â rhoi addasiadau rhesymol ar waith iddo. Roedd hefyd yn anfodlon ar y ffordd ymdriniodd y Corff â’i gwyn.
Nododd yr Ombwdsmon fod Mr B wedi cyflwyno ceisiadau am addasiadau rhesymol ym mis Rhagfyr 2025, ond na chafwyd cydnabyddiaeth ohonynt; o ganlyniad, cysylltwyd â Mr B heb rybudd ymlaen llaw. Yn dilyn cyflwyno cwyn Mr B ym mis Ionawr 2026, hysbysodd y Corff ef fod addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod camau wedi’u cymryd. Fodd bynnag, ymatebodd Mr B i’r Corff gan fynegi pryderon pellach. Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd ymateb pellach y Corff ym mis Chwefror 2026 yn mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Corff i ymddiheuro i Mr B – o fewn mis – am fethu â rhoi ymateb llawn iddo ynglŷn â’r pryderon a gododd ym mis Chwefror 2026, ac i ddarparu ymateb wedi’i ddiweddaru.